Perfformiad unedau brys yn waeth i gymharu â gaeaf 2017

  • Cyhoeddwyd
adran frys Ysbyty Glan Clwyd

Roedd perfformiad adrannau brys ym mis Rhagfyr yn waeth i gymharu â'r un cyfnod yn 2017, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Daw hyn er gwaethaf sicrwydd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) eu bod nhw'n ymdopi yn well y gaeaf hwn.

Ym mis Rhagfyr, cafodd 77.8% o gleifion brys eu gweld o fewn pedair awr, ychydig yn is na 79% ym mis Rhagfyr 2017 - targed y GIG yw 95%.

Fe wnaeth 81,823 o gleifion ymweld ag adrannau brys ym mis Rhagfyr, 650 yn llai na'r mis Rhagfyr blaenorol.

Dyma oedd perfformiad gwaethaf Ysbyty Maelor Wrecsam mewn unrhyw fis Rhagfyr ac eithrio un, gydag ychydig un fwy na hanner y cleifion yn cael eu gweld ar amser.

Dim ond 54.7% o gleifion cafodd eu gweld o fewn pedair awr yn Ysbyty Glan Clwyd.

Roedd y nifer wnaeth dreulio dros 12 awr mewn adran frys hefyd yn waeth (95.2%) o gymharu â'r mis Rhagfyr blaenorol.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod pwysau cynyddol wedi bod ar adrannau brys ar hyd a lled y wlad.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Roedd gwasanaethau iechyd a gofal dan bwysau dros gyfnod y Nadolig ac mae nifer y cleifion gafodd eu trin ym mis Rhagfyr yn fwy nac unrhyw flwyddyn arall ar gofnod.

Gwell paratoadau

Fe wnaeth bron i 11,500 o gleifion ymweld ag uned brys Ysbyty Prifysgol Caerdydd, gydag 83% o'r rheini yn cael eu gweld o fewn pedair awr.

Dywedodd Dr Katja Empson: "Y flwyddyn ddiwethaf roedd yr adran dan bwysau aruthrol ac roedd hynny'n beryglus ac yn anodd ei reoli.

"Hyd yma, nid yw'r ffliw wedi bod mor ddifrifol eleni... fel adran ac fel bwrdd iechyd rydyn ni wedi paratoi yn well er mwyn sicrhau fod yr uned yn fwy diogel."

Ychwanegodd bod timau yn cyfarfod pob dwy awr er mwyn amlygu llefydd y gall oedi ddigwydd a gwella cyfathrebu.

Cefnogaeth y Groes Goch

Mae fwy o weithwyr gydag elusen y Groes Goch yn helpu unedau brys gludo cleifion mewn oed adref yn gynt.

Yn ystod mis cyntaf y gaeaf fe wnaeth yr elusen helpu 8,961 o gleifion ar hyd saith ysbyty cyffredinol mawr yng Nghymru.

"Mae cerbydau'r Groes Goch yn ein galluogi i gludo cleifion adref heb ddefnyddio'r gwasanaeth ambiwlans," meddai Nina Langrish, un o weithwyr y Groes Goch yng Nghaerdydd.

Hyd yn hyn mae 153 claf wedi cael cynnig derbyn cefnogaeth ychwanegol yn y cartref.