Dynes wedi marw ar ôl 'methiannau' gan fwrdd iechyd

  • Cyhoeddwyd
Betty HumphreysFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Betty Humprhreys yn arfer gweithio fel nyrs yng Nghaerdydd

Bu farw dynes 88 oed yn dilyn methiant bwrdd iechyd i sylweddoli ar ddiffyg difrifol ar ei harenau ac ar ôl iddyn nhw roi dos anaddas o feddyginiaethau iddi i leddfu poen, yn ôl adroddiad gan Ombwdsmon.

Fe wnaeth teulu Betty Humphries gwyno i'r Ombwdsmon Gwasanaethu Cyhoeddus Cymru yn dilyn ei marwolaeth ym mis Mai 2017.

Dywedodd ei mab, Colin bod y teulu yn "grac iawn" am y ffordd y cafodd Ms Humphries ei thrin.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro ac mae'r Ombwdsmon, Nick Bennett wedi gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys y dylai'r bwrdd iechyd dalu £5,500 i'r teulu.

'Eironi'

"Mae'n anhygoel credu ei bod hi wedi cymryd 21 mis i gael llythyr o ymddiheuriad," meddai ei mab, Mr Humphreys o Gaerdydd.

"Mae'r adroddiad gan yr ombwdsmon ar ei thriniaeth o'r dechrau hyd at y diwedd yn un damniol... bod 'na fethiannau difrifol yn y gofal nyrsio.

Disgrifiad o’r llun,

Nick Bennett yw'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus

Dywedodd Mr Bennett fod y bwrdd iechyd wedi methu sylweddoli fod risg i Mrs Humphries, sy'n cael ei galw yn Mrs A yn yr adroddiad, ddioddef anaf difrifol i'w aren o ganlyniad i'w hoed a'i phroblemau iechyd.

Mewn ymdrech i wella ei phoen cefn, fe gafodd hi ormod o feddyginiaeth i leddfu'r boen ac, er iddi waethygu ar ôl cymryd y feddyginiaeth, ni chafodd hyn ei adolygu.

Dywedodd hefyd bod dos o wrthwenwyn i frwydro yn erbyn y feddyginiaeth lleddfu poen wedi eu rhoi i Mrs Humphries yn rhy hwyr.

'Oedi'

"Mae ansicrwydd ynglŷn â'r ffaith os oedd modd osgoi marwolaeth Mrs A os y byddai'r gweithredu wedi bod yn gynt," meddai Mr Bennett.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon hefyd feirniadu'r bwrdd iechyd am "oedi" cyn adrodd, prosesu ac ymchwilio i bryderon gafodd eu codi gan deulu Mrs Humphries ynglŷn â chleisiau a phryderon ynglŷn ag anaf pen posib.

Dywedodd Ruth Walker o Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod yn rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith.

Ychwanegodd bod y bwrdd eisiau "ymddiheuro am y methiannau gafodd eu hamlygu yn adroddiad yr ombwdsmon i ofal Mrs A a'r gofid y mae hyn wedi'i achosi i'r teulu".