Guto Bebb â 'dim dewis' ond ymddiswyddo

Mae Guto Bebb wedi dweud nad oedd ganddo opsiwn ond ymddiswyddo ar ôl anghytuno â Llywodraeth y DU ar newidiadau i'w polisi ar Brexit.

Fe wnaeth AS Ceidwadol Aberconwy ymddiswyddo o'i swydd fel gweinidog amddiffyn nos Lun ar ôl pleidleisio gyda'r gwrthbleidiau ar gymal o fesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Mr Bebb wedi pleidleisio yn erbyn gwelliant gafodd ei gynnig gan aelodau sydd o blaid Brexit caled.

Dywedodd wrth BBC Cymru ddydd Mawrth ei fod o'r gred y byddai Brexit caled yn gwneud "difrod gwirioneddol i'r gymuned amaethyddol yng Nghymru".