Lansio pecyn croeso Cymraeg Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llunio pecyn croeso Cymraeg ar gyfer pobl sy'n symud neu'n dychwelyd i'r sir.
Yn y pecyn bydd unigolion yn derbyn gwybodaeth am y sir, am yr iaith Gymraeg, gwahanol fusnesau a sefydliadau Cymraeg yn y sir yn ogystal ag eglurhad o'r manteision o fod yn ddwyieithog.
Cafodd y fenter ei lansio gan y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths yng nghanolfan Gymraeg Yr Atom yng Nghaerfyrddin ddydd Mawrth.
Bydd y pecynnau'n cael eu rhoi i'r rhai sy'n cofrestru ar gyfer treth y cyngor, tenantiaid newydd y Cyngor, staff newydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Heddlu Dyfed Powys yn y rhanbarth, a'r Cyngor Sir.
Yn ogystal, bydd y cynllun yn cael ei dreialu gan asiant tai a darparwyr tai cymdeithasol.
Dywedodd Sarah Reynolds, sydd wedi dysgu'r iaith ac oedd yn rhan o'r seremoni lansio: "Ar ôl symud i Gaerfyrddin o Surrey, 'nes i ddarganfod cymuned gynnes a chroesawgar ac ro'n i eisiau bod yn rhan ohoni."
Un arall oedd yn rhan o'r lansiad yw Ben Grice, a gafodd ei eni yng Nghaerfyrddin cyn symud i fyw mewn gwledydd ar hyd a lled y byd.
Ers iddo ddychwelyd i fyw yn y sir mae wedi dysgu Cymraeg a bellach yn siarad yr iaith bob dydd yn y gwaith a gyda'r teulu ac yn "mwynhau bod yn rhan o'r gymuned Gymraeg".
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor mai'r "gobaith yw y bydd mwy o bobl sy'n symud i'r sir yn dod yn ymwybodol o'r Gymraeg wrth ddarllen y Pecyn Croeso ac yn gweld dysgu a defnyddio Cymraeg fel rhywbeth fydd yn cyfoethogi eu bywyd".
Mae modd darllen y pecyn croeso yn llawn yma., dolen allanol
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018