Achos tân angheuol Llangamarch yn parhau yn ddirgelwch

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Lluniau o'r awyr o'r tŷ gafodd ei ddifetha gan dân ym Mhowys

Mae achos tân wnaeth ladd chwech o bobl yn Llangamarch ym Mhowys fis Hydref y llynedd yn parhau yn ddirgelwch.

Clywodd y cwest nad oedd ymchwiliad wedi dod o hyd i atebion boddhaol fyddai'n profi achos y tân, er i'r gwrandawiad glywed y gallai fod wedi dechrau wrth losgydd pren oedd yn gwresogi'r adeilad.

Penderfynodd crwner mai anadlu mwg oedd achos y marwolaethau wrth nodi rheithfarn naratif.

Bu farw David Cuthbertson, 68, a phump o'i blant yn dilyn y tân.

Mae'r teulu wedi diolch i'r holl griwiau brys aeth i'r digwyddiad ar y noson, ac i bawb fu'n rhan o'r ymchwiliad.

Yn ôl David Hancock, oedd yn arwain ymchwiliad y Gwasanaeth Tân, roedd nifer o bosibiliadau am sut i'r tân ddechrau.

Ond doedd dim modd, meddai, i benderfynu ar un achos yn fwy na'r llall.

Dywedodd fod tystiolaeth "o nifer fawr o ganhwyllau, nifer o ddyfeisiadau electronig ac estyniadau cebl, a bod drysau'r llosgydd pren wedi eu gadael ar agor".

Ychwanegodd, er nad oedd y pibellau nwy yn dangos yr "arfer gorau o ran cynnal a chadw doedd tystiolaeth llygad dystion ddim yn cefnogi'r ddamcaniaeth i'r tân ddechrau yn y gegin".

Llwyddodd tri o blant Mr Cuthbertson i ddianc o'r ffermdy.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Cuthbertson yn byw yn y ffermdy gyda wyth o'i blant

Y plant a fu farw oedd Just Raine, 11 oed, Reef Raine, 10, Misty Raine, naw, Patch Raine,n chwech, a Gypsy Raine, bedair.

Yn ystod y gwrandawiad cafodd tystiolaeth dros 20 aelod o deulu Mr Cuthbertson ei ddarllen.

Fe glywodd y cwest bod sawl un yn credu i'r tân ddechrau mewn ystafell fyw fawr ar lawr gwaelod yr adeilad.

Roedd tân yn cael ei gynnau yno'n ddyddiol, ac yn ôl rhai o blant Mr Cuthbertson, byddai'r tad yn gofalu bod y tân wedi ei ddiffodd bob nos cyn i'r teulu fynd i'w gwlâu.

'Llawn mwg'

Fe wnaeth y crwner grynhoi tystiolaeth y plant gafodd ei gasglu gan yr heddlu yn dilyn y trychineb.

Dywedodd Blue, Leaf a Farr Raine - a lwyddodd i ddianc o'r tân - eu bod wedi deffro mewn ystafelloedd oedd yn ddu gyda mwg.

Dywedodd Leaf mai hi oedd yr olaf i fynd i'w gwely tua 22:45 a bod fflamau yn y lle tân wrthi'n diffodd.

Pan ddeffrodd awr yn ddiweddarach roedd yr adeilad yn llawn mwg ac yna fe wnaeth ddeffro ei thad a cheisio deffro'r plant eraill cyn dringo drwy ffenestr yn y to.

Fe redodd Leaf i garafán Eifion Davies - perchennog y ffermdy - er mwyn cael cymorth, ac yna gwelodd ei brawd Farr yn cerdded tuag ati.

Dywedodd Farr wrth yr heddlu fod y tŷ yn ferwedig a'i dad yn gweiddi ar bawb i fynd allan.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ffermdy ei losgi'n ulw

Yn rhoi tystiolaeth, dywedodd Roger Smith, aelod o griw'r gwasanaeth tân, bod mab yng nghyfraith Mr Cuthbertson yn gyrru un o'r unedau brys.

Dywedodd bod y tân wedi datblygu yn sylweddol erbyn iddyn nhw gyrraedd y tŷ.

Roedd y gwres mor ddifrifol fel bod rhaid i'r criw gadw'n bell yn ôl o'r adeilad.

Doedd dim larymau tân i'w clywed ond fe ddywedodd ei bod hi'n debygol i'r gwres fod wedi toddi unrhyw larymau erbyn hynny.

Ychwanegodd iddo wneud y penderfyniad eu bod hi'n rhy beryglus i swyddogion fynd i mewn i'r adeilad.

"Fy nghred i oedd y byddai anfon swyddogion i mewn i'r adeilad wedi arwain at farwolaeth aelod o griw'r gwasanaeth tân," meddai.

"A dyna pam i fi benderfynu peidio gwneud hynny."