Plant ysgol a gyrrwr yn sefydlog wedi gwrthdrawiad bws

  • Cyhoeddwyd
Y bws ysgol wedi'r gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Cadarnhaodd yr heddlu mai plant ysgol gynradd oedd yn rhan o'r digwyddiad

Mae pedwar plentyn a gyrrwr bws yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog yn dilyn digwyddiad ym Mhowys ddydd Llun.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Lôn Yr Ysgol, wrth Lôn Y Neuadd yn Llanfair Caereinion tua 15:25.

Cafodd tri o blant eu hedfan mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty, tra bod plentyn arall a gyrrwr wedi eu cludo mewn ambiwlansys ffordd.

Bore Mawrth, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y plant a'r gyrrwr yn sefydlog yn yr ysbyty.

Cadarnhaodd yr heddlu mai plant ysgol gynradd oedd y rhai a fu'n rhan o'r digwyddiad.

Ychwanegodd y datganiad bod y bws wedi ei symud ar gyfer archwiliad fforensig, a bod y ffordd wedi agor.

Cafodd pumed plentyn driniaeth gan barafeddygon, ond nid oedd angen mynd i'r ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y bws wedi cael ei symud o'r safle erbyn bore Mawrth

Mae'r ysgolion cynradd ac uwchradd - sydd ar safleoedd cyfagos - wedi diolch i'r gwasanaethau brys ar ôl y digwyddiad.

Dywedodd pennaeth dros dro Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion, Laura Jones, bod y digwyddiad yn "sioc i bawb yn yr ysgol".

"Hoffwn ddiolch am ymateb sydyn y gwasanaethau brys a staff yr ysgol ddaeth i'r safle i helpu.

"Hoffwn ddiolch hefyd i rieni am eu dealltwriaeth yn ystod y digwyddiad."

Mae hi wedi bod yn "24 awr anodd i'r ddwy ysgol" meddai pennaeth dros dro Ysgol Uwchradd Caereinion, Edward Baldwin, a chadeirydd y llywodraethwyr, Terry Phillips.

Ychwanegodd y datganiad y byddai'r ysgol yn cefnogi disgyblion a staff dros y cyfnod sydd i ddod.

'Damwain erchyll'

Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn, Craig Williams: "Mae pobl wirioneddol wedi'i syfrdanu a rwy'n credu bod dal elfen o sioc yn y gymuned.

"Fe wnes i y daith ysgol gyda fy nau blentyn y bore 'ma gan siarad efo rhieni a staff... yn amlwg roedd peth sioc ond hefyd rhyddhad fod y plant mewn stad sefydlog ar hyn o bryd, ond roedd yn ddamwain erchyll."

Yn ôl gohebydd BBC Cymru, Craig Duggan yn Llanfair Caereinion, roedd y bws wedi dod i gasglu teithwyr o'r ysgol uwchradd.

Ond cyn i'r bws droi ar ben y bryn i faes parcio'r ysgol uwchradd, fe gollodd y gyrrwr reolaeth ar y bws gan rolio i lawr y bryn tuag at yr ysgol gynradd.

Roedd plant o'r ysgol gynradd yn cerdded ar y ffordd ar y pryd.

Brynhawn Mawrth mae Capel Moreia, Llanfair ar agor i bobl sy'n dymuno "myfyrio neu weddïo yn dawel".

Pynciau Cysylltiedig