Dal arian yn ôl wedi methiannau targedau amseroedd aros

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, GUSTOIMAGES/SCIENCE PHOTO LIBRARY

Mae mwy na £13m wedi'i gadw'n ôl rhag tri o fyrddau iechyd Cymru ar ôl iddyn nhw fethu a chwtogi amseroedd aros cleifion.

Cyhoeddwyd cyllid ychwanegol o £50m yn fwy i ostwng amseroedd aros gan yr ysgrifennydd iechyd i ddarparu gwelliannau cyflymach mewn llawdriniaethau, diagnosteg a therapïau.

Yn gynharach yn y mis cyhoeddwyd fod £3.13m wedi'i ddal yn ôl rhag Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru.

Fe wnaeth byrddau iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac Aneurin Bevan hefyd fethu â chyrraedd eu targedau.

Dalwyd £7.4m yn ôl rhag Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg - sy'n gwasanaethu ardaloedd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.

Ni wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, sy'n gwasanaethu cleifion yn ardaloedd Casnewydd a Dyffryn Gwent dderbyn £2.9m, ar ôl iddyn nhw fethu â chyflawni'r gwelliannau disgwyliedig.

'Gwelliant ar y cyfan'

Ond fe wnaeth Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf gyrraedd eu targedau yn ogystal â Hywel Dda - er gwaethaf eu problemau cyllid diweddar - wneud yn well na'r disgwyl.

Er i dri bwrdd iechyd fethu dangos digon o welliannau i sicrhau'r cyllid ychwanegol, mae Llywodraeth Cymru yn mynnu fod perfformiad amseroedd aros wedi gwella'n sylweddol ar draws Cymru.

Fe wnaeth ffigyrau diweddar hefyd ddangos fod amseroedd aros o ran therapïau ar ei isaf ers saith mlynedd a bod amserodd aros diagnostig ar ei isaf ers 2009.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf wedi cyrraedd y targedau i leihau'r rhestrau aros gafodd eu gosod ac mae Hywel Dda wedi gwella.

"Er gwaethaf gwelliant ar y cyfan ar draws Cymru, fe wnaeth Byrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan a Betsi Cadwaladr fethu a chyrraedd y targedau gafodd eu gosod."