Defnydd o adnoddau naturiol Cymru yn 'anghynaladwy'

  • Cyhoeddwyd
y gylfinirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gylfinir mewn perygl o ddiflannu'n llwyr o gefn gwlad Cymru yn ystod yr 20 mlynedd nesa'

Mae Cymru'n defnyddio ei hadnoddau naturiol ar "raddfa anghynaladwy" ac eto i gyrraedd un o bedwar uchelgais y mae wedi gosod i daclo'r broblem, yn ôl ei phrif gorff amgylcheddol.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod angen "trawsnewid" y systemau bwyd, ynni a thrafnidiaeth er mwyn atal mwy o ddifrod.

Rhybuddiodd bod amser yn mynd yn brin "i osgoi sefyllfa drychinebus i Gymru a'r byd".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y pandemig presennol yn gosod her ychwanegol ond fod hefyd yn "gyfle i ganolbwyntio ar adferiad gwyrdd yn ystod yr amser heriol hwn".

Dan y Ddeddf Amgylchedd - gafodd ei chyflwyno yn 2016 - mae'n rhaid i CNC gynhyrchu asesiad o gyflwr holl adnoddau naturiol y wlad bob pum mlynedd.

Mae hyn yn cynnwys popeth o aer a dŵr glân, i briddoedd, mwynau a chynefinoedd natur.

Mae'r adroddiad diweddara'n "ddarlleniad llwm", yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Sophie Howe.

Oherwydd y pandemig mae'n cael ei gyhoeddi'n raddol - gyda'r prif benawdau ac argymhellion nawr.

Bydd mwy o fanylder ynglŷn â chyflwr bob un o ecosystemau Cymru - o'i harfordir a'i moroedd, i afonydd, coetiroedd a thir fferm - yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth.

Beth sy'n digwydd i'r amgylchedd?

Mae'r adroddiad yn dweud mai prin iawn yw'r cynefinoedd bywyd gwyllt yng Nghymru sy' mewn cyflwr da - hyd yn oed mewn ardaloedd lle y dylen nhw fod yn cael eu hamddiffyn.

Ystyriwch afonydd er enghraifft - yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd CNC bod dros 60% o holl afonydd Ardal Cadwraeth Arbennig yn methu targedau llygredd ffosffad - sy'n gallu cael ei olchi i'r dŵr oddi ar dir fferm neu o'r system garthffosiaeth.

Dim ond 31% o'r wlad sy'n cael ei ystyried yn gynefin rhannol-naturiol - ac mae o leiaf 40% o hyn wedi'i wasgaru'n ddarnau bychain iawn.

Mae bywyd gwyllt yn dibynnu ar gynefinoedd sydd wedi'u glynu â'i gilydd - ond mae'r cysylltedd yma hefyd yn cael ei golli.

Mae'n golygu bod rhywogaethau eiconig fel y gylfinir mewn perygl o ddiflannu'n llwyr o gefn gwlad Cymru yn ystod yr 20 mlynedd nesa'.

Mae'r sefyllfa'n peryglu bywydau pobl hefyd - gydag ansawdd aer gwael yn cyfrannu at hyd at 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru - 6% o'r cyfanswm.

Ac mae 245,000 o adeiladu mewn perygl o lifogydd - problem sy'n debygol o waethygu o ganlyniad i newid hinsawdd.

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad nad yw un o bedwar nod hir dymor a osodwyd gan CNC yn 2016 i sicrhau rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol wedi cael eu cyrraedd.

Ond mae'n dweud nad yw hynny'n syndod mewn 'chydig flynyddoedd.

Beth yw'r ateb?

Mae'r adroddiad yn dweud bod yn rhaid i Gymru "drio syniadau, lansio arbrofion a chefnogi arloesedd" a thrawsnewid tri maes allweddol o'r economi ar frys.

Hynny yw y systemau bwyd, ynni a thrafnidiaeth.

Mae am weld pobl yn cael eu hannog i newid eu harferion byw - o amgylch diet a dewisiadau o ran teithio er mwyn lleihau'r pwysau ar adnoddau naturiol.

Petai pawb ar y ddaear yn defnyddio adnoddau naturiol ar yr un raddfa â Chymru, byddai angen 2.5 planed i'n cefnogi, meddai.

Yn ôl cadeirydd CNC mae "dal i fod amser i newid trywydd tuag at gynaliadwyedd ond mae'n rhaid i ni weithredu nawr a gwneud hynny drwy sicrhau bod cymdeithas yn gweithio gyda'i gilydd".

Bwyd

Mae'r adroddiad yn galw am fwy o ddefnydd o dechnoleg ym myd amaeth i helpu lleihau'r angen am wrtaith, atal llygredd a chyfyngu ar faint o dir sy'n rhaid ei ffermio.

Mae'n awgrymu hefyd y byddai 'na "effaith gadarnhaol" petai cymdeithas yn lleihau faint o gig a llaeth maen nhw'n ei fwyta gyda mwy o ffocws ar dyfu planhigion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl Dr Hefin Williams, darlithydd yn yr amgylchedd amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae hyn yn "benderfyniad ar lefel unigolion" a bod rhaid cofio bod amaethu da byw yn "asgwrn cefn i amaethu yng Nghymru".

Tra bod yr adroddiad yn amlinellu nifer o sialensiau i'r sector, dywedodd ei fod hefyd yn arddangos cyfleoedd y mae'r diwydiant mewn sefyllfa dda i elwa ohonynt.

"Un o'r prif heriau sy' gynon ni o ran da byw yw sut 'da ni'n cynhyrchu digon o brotein i fwydo'n hanifeiliaid," meddai Dr Williams.

"Ar hyn o bryd ry'n ni'n rhy ddibynnol ar fewnforio cnydau megis ffa soya. Ond mae 'na dipyn o botensial i wella'r sefyllfa hynny drwy dyfu cnydau megis maethion coch a gwyn, pys a chodlysiau eraill.

"Byse strategaeth o'r fath yn galluogi ffermwyr i fynd i'r afael â'u costau bwydo nhw, a chynnig buddion amgylcheddol o ran lleihau'r angen am wrteithiau synthetig hefyd."

Ynni

Rhaid i Gymru symud yn gyflym oddi wrth gynhyrchu trydan gan ddefnyddio tanwyddau ffosil at ddatblygiadau ynni adnewyddadwy.

Er mae'r adroddiad yn rhybuddio bod y rheini hefyd yn gallu cyfrannu at bwysau amgylcheddol os nad oes digon o ystyriaeth yn cael ei roi yn ystod y broses gynllunio a tra'u bod yn cael eu hadeiladu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl Jess Hooper, rheolwr Ynni Morol Cymru - sy'n cynnal cynhadledd tridiau o hyd i arddangos potensial y sector yr wythnos hon - mae gan Gymru'r gallu i "arwain y byd" yn y maes.

"Ar hyn o bryd mae gennym ni 16 o ddatblygwyr ynni morol sy'n actif yn y sector - yn helpu darparu economi carbon isel gyda'i swyddi, sgiliau a chyfleoedd ei hun. Diwydiant y gallwn ni ddweud sydd wedi'i dyfu gartref ac y gallwn ni ei allforio ar draws y byd," meddai.

Mae'r adroddiad hefyd yn galw am ffocws sylweddol ar leihau defnydd ynni a mwy o fesurau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau.

Mae gan Gymru, meddai, ymysg y stoc tai hynaf a lleiaf effeithlon yn Ewrop.

Trafnidiaeth

Mae defnydd ceir yng Nghymru yn uchel ar gyfer cymudo - gydag ond gostyngiad bach iawn wedi'i weld mewn allyriadau carbon o drafnidiaeth ers 1990.

Ond mae'r adroddiad yn dweud nad yw symud pawb at gerbydau trydan yn "ateb cynaliadwy".

"Mae angen newid systemig o ran sut a pham bod pobl yn teithio a'r hyn sy'n cael ei gludo," meddai.

Mae'n hyrwyddo cysyniad y fro 20 munud - sy'n deillio o Melbourne, Awstralia - lle mae cymdeithas drefol yn cael ei gynllunio mewn modd lle gall drigolion ateb eu holl ofynion dyddiol drwy gerdded pellter bach o'u cartrefi.

Yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: "Dyw hyn ddim jest ynglŷn â thargedau allyriadau carbon - mae gan yr atebion hyn fuddion pellach.

"Mae gennym ni argyfwng gordewdra yng Nghymru a'r peth diwethaf ry'n ni eisiau yw mwy o bobl yn eistedd yn eu ceir."

Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru?

Wrth groesawu'r adroddiad, dywedodd y Gweinidog Amgylchedd Lesley Griffiths ei fod yn cynnig "set gynhwysfawr o dystiolaeth inni ar gyflwr a thueddiadau adnoddau naturiol ac ecosystemau Cymru, yn ogystal ag edrych ar sut rydym yn cyflawni o ran rheoli gynaliadwy".

"Wrth i ni barhau i wynebu'r heriau a berir gan bandemig Covid-19, rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ein hunain dro ar ôl tro i ymateb amgylcheddol-gyfrifol i'r pandemig, a dyma ein cyfle i ganolbwyntio ar adferiad gwyrdd yn ystod yr amser heriol hwn," meddai.

Ychwanegodd ei bod hefyd yn "rhoi cyfle i ni drafod y rhan y mae'n rhaid i ni i gyd ei chwarae wrth wella cyflwr ein hecosystemau, fel y gallwn sicrhau eu bod yn cefnogi llesiant cenedlaethau i ddod".

Pynciau Cysylltiedig