Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-1 Brentford

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Symudodd yr Elyrch yn ôl i safle'r ddau uchaf yn y Bencampwriaeth ar ôl i gôl gan eu chwaraewr newydd Conor Hourihane sicrhau gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Brentford.

Rheolodd Brentford y chwarae am ran helaeth o'r gêm ac roedd yn edrych fel eu bod yn anelu am fuddugoliaeth haeddiannol yn dilyn gôl o beniad Tariqe Fosu-Henry.

Ond fe wnaeth Abertawe sicrhau gêm gyfartal bedwar munud wedi i'w chwaraewr Kyle Naughton weld ail gerdyn melyn, a chael ei hel o'r cae ar ôl 69 munud o chwarae.

Fe fethodd cic rydd Hourihane ddarganfod neb, cyn hedfan i mewn i rwyd y gwrthwynebwyr.

Ceisio croesi yn hytrach nag ergydio oedd Hourihane, ond doedd dim ots gan y tîm cartref wrth i'r pwynt ar y noson eu codi'n ôl i'r ail safle yn y tabl.

Pynciau Cysylltiedig