Y Bencampwriaeth: Barnsley 2-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
MooreFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe frwydrodd Caerdydd yn ôl o 2-0 i hawlio gêm gyfartal yng ngêm gyntaf Mick McCarthy fel rheolwr yr Adar Gleision.

Roedd llygaid pawb ar McCarthy ar y noson, ag yntau mewn lle cyfarwydd wrth ddychwelyd i'w dref enedigol, a gynrychiolodd 314 o weithiau fel chwaraewr.

Ond dechrau digon siomedig gafodd y rheolwr newydd yn yr hanner cyntaf, ac roedd yn ymddangos bod goliau gan Mads Andersen a Cauley Woodrow am arwain at seithfed colled yn olynol i Gaerdydd.

Ond sgoriodd Sheyi Ojo a Kieffer Moore i unioni'r sgôr wrth i Gaerdydd wella'n sylweddol ar ôl yr egwyl.

Mae'r pwynt yn golygu bod Barnsley yn aros yn 12fed yn y Bencampwriaeth, tra bod Caerdydd yn codi i'r 15fed safle ar ôl dod â'u rhediad siomedig diweddar i ben.