Oliver Denham o glwb Caerdydd yn ymuno â charfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Oliver DenhamFfynhonnell y llun, Simon Stacpoole/Offside
Disgrifiad o’r llun,

Mae Oliver Denham 20 oed eto i ennill ei gap cyntaf

Mae Oliver Denham o glwb Caerdydd wedi ei ychwanegu i garfan Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer eu gêm ail gyfle Cwpan y Byd a gemau Cynghrair y Cenhedloedd ddechrau Mehefin.

Ond mae'r ymosodwr Nathan Broadhead, sydd ar fenthyg gyda Sunderland o Everton, wedi gorfod tynnu'n ôl oherwydd anaf.

Mae'r rheolwr Robert Page hefyd wedi ychwanegu'r asgellwr Wes Burns o Ipswich.

Dyw Denham, amddiffynnwr 20 oed, heb ennill ei gap cyntaf i Gymru, a dim ond pum gêm mae wedi chwarae i Gaerdydd yn y Bencampwriaeth, a dwy gêm gwpan.

Fe fydd Cymru yn wynebu'r Alban neu Wcráin yng Nghaerdydd ar ddydd Sul 5 Mehefin, wrth i Gymru geisio am le yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Byddant hefyd yn chwarae Gwlad Pwyl, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg yng nghystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd.