Gostyngiad yn nifer y swyddogion carchar yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y swyddogion sydd yn gweithio yng ngharchardai Cymru a gweddill y DU wedi gostwng dros y pedair blynedd diwethaf.
Daw hynny er i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder geisio recriwtio staff ychwanegol er mwyn delio â'r baich cynyddol o geisio cadw trefn.
Yn ôl ystadegau sydd wedi cael eu gweld gan yr elusen Howard League for Penal Reform, sydd yn ceisio diwygio'r system benydol, roedd 14,689 o swyddogion llawn amser yn gweithio yng Nghymru a Lloegr ym mis Mehefin 2016, gostyngiad o'r 15,110 yn ystod yr un cyfnod yn 2015.
Ond yn ystod yr un cyfnod mae nifer y carcharorion wedi cynyddu, meddai'r elusen, gan arwain at sefyllfa beryglus ble mae mwy o drais o fewn carchardai Prydain.
Rhwng 2013 a 2016 fe ddisgynnodd nifer y swyddogion yng ngharchar Caerdydd o 200 i 148. Dros yr un cyfnod fe ostyngodd nifer y swyddogion yng ngharchar Abertawe o 110 i 106, ac yng ngharchar Brynbuga o 60 i 59.
Doedd y ffigwr ar gyfer carchar y Parc ger Pen-y-bont ddim wedi cael ei gynnwys, gan ei fod yn garchar preifat sydd yn cael ei redeg gan gwmni diogelwch G4S.
Mae disgwyl i garchar Berwyn ger Wrecsam agor yn 2017.
Mwy o drais
Yn ôl ymchwil blaenorol gan yr Howard League, cafodd nifer y swyddogion carchar ei gwtogi 30% rhwng 2010 a 2013. Er yr ymgyrch recriwtio gan y llywodraeth dyw'r sefyllfa ddim wedi gwella meddai'r elusen.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf mae poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr wedi cynyddu o 83,796 i 85,130, ac mae hyn yn rhywbeth sydd yn rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaeth yn ôl cyfarwyddwr ymgyrchoedd yr elusen, Andrew Neilson.
Bu farw 321 o bobl yn y carchar yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2016, cynnydd o 30% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gan gynnwys 105 o bobl y credir iddyn nhw ladd eu hunain.
Roedd cynnydd o 27% hefyd yn nifer yr achosion hunan-niweidio, gydag un achos yn digwydd bob 15 munud, ac roedd cynnydd o 40% o nifer yr achosion o ymosodiadau ar staff.
'Bwydo'r problemau'
"Mae'r ffigyrau hyn yn dangos sut mae lleihau nifer y staff a phroblemau recrwitio a chadw staff newydd yn bwydo'r problemau," meddai Mr Neilson.
"Fe fydd y rhan helaeth o'r rheiny sydd yn cael eu hanfon i'r carchar yn cael eu rhyddhau yn ôl i'r gymuned felly mae hi o bwys i bob un ohonom beth sy'n digwydd i bobl pan maen nhw'n cael eu carcharu.
"Dyw taflu rhywun i ganol trais, cyffuriau ac anobaith ddim yn mynd i arwain y person hwnnw i ffwrdd o droseddu."